P-04-442 : Sicrhau cymorth da i blant anabl a'u teuluoedd sy’n agos i’w cartrefi

 

Geiriad y ddeiseb:

Rydym ni, y rhai sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau cymorth da i blant anabl a'u teuluoedd sy’n agos i’w cartrefi.

Er mwyn cyflawni hyn, rydym ni'n galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod Bil Addysgol (Cymru) yn cynnwys egwyddor 'darparu'n lleol' yn y Bil a fydd yn: 

- sicrhau gwasanaethau cynhwysol a hygyrch yn yr ardal leol, ac

- yn rhoi dyletswydd ar asiantaethau lleol i gyflwyno gwasanaethau cynhwysol a hygyrch os nad ydynt yn bodoli, drwy waith cynllunio gwell, partneriaeth a thrwy gynnwys rhieni lleol yn y gwaith.

 

Prif ddeisebydd: Scope Cymru

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor:  4 Rhagfyr  2012

Nifer y llofnodion: 2,606